Y Tri Mynach

Jôc Wyddelig o’r Canol Oesoedd

Golygwyd a Chyfieithiwyd gyda Darluniau a Darlleniad
gan
Dennis King

nahua voluta

Y stori yn dod i’r golwg

Yng Nghaeredin ym 1892, cyhoeddwyd Silva Gadelica: A Collection of Tales in Irish, wedi’i gyfieithu a’i olygu gan Standish Hayes O’Grady. Yn y rhagair i’r gyfrol sonia O’Grady am y byrraf oll yn ei dyb ef o destunau hagiograffyddol Gwyddeleg. Dyma’r crynodeb a geir ganddo:

“Three penitents resolved to quit the world for the ascetic life, and so sought the wilderness. After exactly a year’s silence the first one said: ‘’tis a good life we lead.’ At the next year’s end the second answered: ‘it is so.’ Another year being run out, the third exclaimed: ‘if I cannot have peace and quiet here I’ll go back to the world.’”

O’Grady added “The original Irish is in a paper MS in the British Museum, but for the moment I have mislaid the reference.”

O’r diwedd daeth y testun i olau dydd mewn print ym 1926, yn ail gyfrol y Catalogue of Irish manuscripts in the British Mueum, gan Robin Flower. Meddai Dr Flower ar dudalen 586 fod y testun “yn amlwg yn deillio o ryw lawysgrif ganoloesol.” Ychydig iawn o destunau Hen Wyddeleg sydd wedi goroesi yn y ffurf ysgrifenedig wreiddiol – yn hytrach, yr hyn a ddigwyddai fel arfer oedd i’r deunydd gael ei gopïo dro ar ôl tro wrth i hen lawysgrifau dreulio a rhai newydd lenwi’r bwlch. Gellir dadlau fod iaith yr anecdôt bychan yma dros fil o flynyddoedd oed, ond nid yw ar gadw ond mewn llawysgrif bapur yn y Llyfrgell Brydeinig, Egerton 190, a gopïwyd ym 1709 gan Richard Tipper o Baile Mhistéil, Swydd Dulyn.

Atgynhyrchwyd y testun gan y Dr Flower, ond ni roddodd gyfieithiad:

“Triar mannach dorath (sic) diultadh don tsaoghal. Tiagait a fasach do athghaira a pecadh fri Dia Bhadar cin labhradh fri araile co ceann bliaghna. Is ann isbeart fear dibh fri aroile dia bliaghna ‘Maith atámm,’ ol se, ‘amen’ [...] co cionn bliaghnai. ‘Is maith ón,’ ar in dara fear. Batar ann ier suidhe co ceann bliaghna. ‘Toingim nam abith (sic),’ ar in treas fear, ‘mine lecthi ciunnus damh co n-imgeb in fasach uile dibh.’ Finis.”

Craffu’n fanylach

Yn 2008 llwyddais i weld copi meicroffilm o’r llawysgrif ei hun, sy’n dangos yn eglur fod ambell wall yn nhrawsgrifiad Dr Flower. Dyma felly drawsgrifiad diwygiedig, gan roi’r geiriau a newidiwyd mewn llythrennau breision: tsaoghail, tiegait, uam, abit. O’r pedwar, dim ond y trydydd a’r pedwerydd sy’n peri newid pwysig i’r ystyr. Dilëwyd gennyf hefyd atalnodi‘r Dr Flower: mae’n siŵr gen i ei fod yntau’n anghywir i ystyried y gair “amen” yn rhan o’r deialog.

TRIAR mannach dorath diultadh don tsaoghail. tiegait a fasach do athghaira a pecadh fri dia. bhadar cin labhradh fri araile co ceann bliaghna. IS ann isbeart fear dibh fri aroile dia bliaghna Maith atamm ol se amen.co cionn bliaghnai. IS Maith on ar in dara fear batar ann ier suidhe co ceann bliaghna Toingim uam abit ar in treas fear mine lecthi ciunnus damh conimgeb in fasach uile dibh. FINIS

Orgraff a gramadeg

Cynnwys y llawysgrif nifer o nodweddion orgraffyddol o gyfnod Gwyddeleg Modern Cynnar, ac fe’i haddaswyd gennyf i ddilyn normau’r Hen Wyddeleg. Cymhwyswyd hefyd ffurfiau gramadegol rhai geiriau er mwyn ceisio dilyn patrwm Hen Wyddeleg diweddar neu Wyddeleg Canol cynnar. Yr unig newid mawr a gyflwynais wrth olygu oedd troi “athgaira” y llawysgrif yn “aithirgi” (edifarhâd) oherwydd y tebygrwydd i'r gair hwn gael ei lygru yn nhraddodiad y testun. Diolch i Elisa Roma am dynnu fy sylw at hyn. Hoffwn hefyd ddiolch yn fawr i Liam Breatnach am gynnig y dehongliad o “uam”.

Y lluniau

Cafwyd hyd i’r rhan fwyaf o’r delweddau a ddefnyddir yn y lluniau mewn codecsau Astec a ysgrifennwyd ym Mecsico yn y cyfnod yn union wedi’r concwest Sbaenaidd. Daw’r rhan fwyaf o’r rhain, gan gynnwys y ffigurau dynol i gyd, o’r Códice Boturini. Daw’r mynydd, er hynny, o’r Códice Aubin, a’r tŷ o furlun yn y Templo de los Guerreros yn Chichén Itzá. Cafwyd un ddelwedd fach o blanhigyn o’r Códice Fejérváry-Mayer, ac mae’r gwningen wrth ochr hwnnw wedi’i chymryd oddi ar arysgrif ar y Piedra de Tízoc. Rwyf wedi trefnu’r delweddau yn ôl gofynion y naratif Gwyddeleg, gan newid ambell un ryw ychydig hefyd.

Y Stori mewn Wyth o Baneli

Cliciwch ar y rhifolyn Rhufeinig am ddadansoddiad gair-am-air o’r frawddeg uwchben.

Gwrandewch ar y chwedl yn Hen Wyddeleg

illustration

Tríar manach do·rat díultad dont saegul.

Tri mynach a gefnodd ar y byd.

I

illustration

Tíagait i fásach do aithrigi a peccad fri día.

Ânt i’r anialwch i edifarhau am eu pechodau o flaen Duw.

II

illustration

Bátar cen labrad fri araile co cenn blíadnae.

Buont am flwyddyn heb lefaru gair â’i gilydd.

III

illustration

Is and as·bert fer diib fri araile dia blíadnae, “Maith at·taam,” olse.

Yna ar ddiwedd y flwyddyn siaradodd un wrth y llall, “Yr ydym yn iawn,” meddai ef.

IV

illustration

Amein co cenn blíadnae.

Felly y bu am flwyddyn arall.

V

illustration

“Is maith ón,” ol indara fer.

“Mae hi’n dda, yn wir,” chwedl yr ail ddyn.

VI

illustration

Bátar and íar suidiu co cenn blíadnae.

Am flwyddyn eto y buont yno.

VII

illustration

“Toingim fom aibit,” ol in tres fer, “mani·léicthe ciúnas dom co n-imgéb in fásach uile dúib.”

“Ar fy ngwisg,” meddai’r trydydd dyn, “os na chaf ychydig o dawelwch gennych, cewch gadw’r anialwch ‘ma!”

VIII

Yr Hanes yn yr Ugeinfed Ganrif

Stori Werin Ryngwladol

Rhestrir y stori fach hon yn The Types of International Folktales gan Hans-Jörg Uther (Helsinki, 2004), ac iddi’r rhif ATU 1948. Fe’i trafodwyd hefyd yn ddiweddar yn rhifyn 12 o’r Enzyklopädie des Märchens (Berlin 2007). Mae Uther yn crybwyll fersiynau o Norwy, y Ffindir, Ffrîslan, Iwerddon a gwledydd eraill yng ngogledd Ewrop. Dyma’r crynodeb a geir ganddo:

Too Much Talk. Three silent men (trolls, brothers, captains, farmers) withdraw from the world and retreat to a hermitage (canyon, monastery, island). After seven years, one of them speaks, “I think I heard a cow moo”. The others are irritated but stay silent. Seven years later, another man says, “It could have been an ox”. The third is annoyed but does not speak. After seven more years, he says, “I am leaving this place because there is too much talking (noise)”.

Cafodd fersiwn Gwyddeleg Modern ei recordio gan Séamus Ó Duilearga yn Uíbh Ráthach (penrhyn yn swydd Ciarraí), ac fe’i cyhoeddwyd yn Leabhar Sheáin Í Chonaill (Dulyn, 1977):

49. An Triúir Driothár san Oileán Uaigneach

Triúr driothár a imig ar luíng chún na faraige. Thugadar tamall math ar a’ bhfaraige, agus ní raibh aon talamh a’ buala leó, is bhí eagal ortha ná buailfeadh; ach sa deire do casach isteach go hoileán iad, a’s do bhí cuíllthe anuas go dtí an fharaige, agus cranna a’ fás aníos thríthi. Do cheangaluíodar a’ lúng ansan do chrann, agus d’imíodar féinig isteach fén dtír. N’fheacadar éinne, agus níor bhuail éinne leó. Luíodar ansan ar a bheith ag obair ’s a gnó ar feag seach’ mblian, agus i gciúnn na seach mblian labhair duin’ aca:

“Airím géim bó!” a duairt sé.

Ní’ thug éinne aon fhreagar’ ar a’ bhfocal san.

D’imig seach’ mblian eile thórsa. Labhair a’ tarna fear ansan, agus duairt sé: “Canad?”

D’fhan a sgéal mar sin ar feag seach’ mblian eile.

“Mara n-éisti sibh,” aduairt a’ tríú fear, “cuirfear as so sinn!”

Yn deillio o un hen chwedl?

Hyd y gwn, nid yw’r un fersiwn o ATU 1958 a geir yn y casgliadau llên gwerin yn gynharach na’r ugeinfed ganrif. Ni cheir yr un sy’n hŷn na dyddiad cyhoeddi Silva Gadelica ym 1892, sef y tro cyntaf i’r chwedl ymddangos yn Saesneg. Erbyn heddiw, ganrif a rhagor ers i O’Grady gyhoeddi ei gyfieithiad rhydd yntau, gwelir fersiynau yn ffynnu ledled y byd, yn enwedig mewn mannau lle mae’r Saesneg yn gryf a lle ceir mynaich Cristnogol, Bwdaidd neu Hindŵ. Ceir y fersiwn a ganlyn yn llyfr The Kitchen Chronicles: 1001 Lunches with J. Krishnamurti gan Michael Krohnen:

“There are three monks, who had been sitting in deep meditation for many years amidst the Himalayan snow peaks, never speaking a word, in utter silence. One morning, one of the three suddenly speaks up and says, ‘What a lovely morning this is.’ And he falls silent again. Five years of silence pass, when all at once the second monk speaks up and says, ‘But we could do with some rain.’ There is silence among them for another five years, when suddenly the third monk says, ‘Why can’t you two stop chattering?’”

Cyfieithiwyd i’r Gymraeg gan Aled Llion Jones